1,2a,3,7; 1,2a,((3),4),5,7; 1,2a,4,5; 1,2a,(7),3,5; 1,2a,7,3,4,5,(6); 1,2a,7,6; 1,3,2a,7; 1,5,2b. Wrth edrych, Iesu, ar y groes A meddwl dyfnder d'angeu loes Pryd hyn rwyf yn dibrisio'r byd Ar holl ogoniant sy ynddo'i gyd N'ad im ymddiried tra bwyf byw Ond yn dy angau di, fy Nuw; Dy boenau di a'th farwol glwy' Gaiff fod yn ymffrost imi mwy. [Boed im' ymddiried trwy fy oes, Yn rhinwedd aberth mawr y groes; Dy boenau a dy farwol glwy' A fyddo'n ymffrost imi mwy.] Gwelwch yn nwylaw 'Mhrynwr pur, Ac yn ei draed ef, hoelion dur; Edrychwch ar y waewffon Yn tori'r archoll dan ei fron! Dyma lle'r ydoedd ar brynhawn Rasusau yn disgleirio'n llawn: Mil o rinweddau yn gytûn Yn prynu'r gwrthgiliedig ddyn. Poen a llawenydd dan y loes, Tristwch a chariad ar y groes; Ble bu rhinweddau fel y rhain Erioed o'r blaen dan goron ddrain? Pa'm carai'r byd a'i dda yn hŵy? On'd dyma wrthddrych llawer mwy, A dâl ei garu tra bo chwyth, A thragwyddoldeb wedi'n byth. Myfi aberthaf er dy glod Bob eilun sydd o dan y rhod, Ac wrth fyfyrio ar dy waed Fe gwymp pob delw dan fy nhraed. N'ad im ymddiried :: Na'd fi ymddiried Dy boenau di a'th :: Dy gariad, Dy Dyma lle'r ydoedd :: O wele yma aberthaf er dy glod :: aberthaf i Dy glod efel. William Williams 1717-91
1,2,3,4,5; 1,3,6,8; 1,7,8. Wrth edrych Iesu ar dy grôes, A meddwl dyfnder d'angeu loes; Pryd hyn 'rwyf yn dibrisio'r byd, A'r holl ogoniant sy ynddo i gyd. Na âd fi 'mddiried tra b'wyf byw Ond yn dy angeu di fy Nuw; Dy boenau a dy farwol glwy, Gaiff fod yn ymffrost i mi mwy. O feiau mawr beth all'sech fwy Na rhoddi i Frenin nefoedd glwy, Lladd'soch yr Oen, fe drodd y rhod, Mae dydd etch dial, chwi yn dod. Edrychwch arno dyma'r Dyn, - A phwy oedd ef ond Duw ei hun; Pechodau'r holl grediniol fyd, A bwysodd ar ei 'sgwyddau y'nghyd. Tystiodd fy Nuw o ganol nef, Ce's lawn foddlondeb ynddo ef; A bod ei saint o fawr i fân, Yn haeddiant Iesu oll yn lân. 'Does arnaf eisiau yn y byd, Ond golwg ar dy haeddiant drud; A chael rhyw braw o'i nefol rin, I 'mado'n lân â mi fy hun. 'Rwi'n mofyn yn dy demi lân Am gael dy weled fel o'r blaen; A bore wawr i d'wynu'n rhad O bur gynteddau tŷ fy Nhad. Ennyned tân o gariad cu Mewn cydsain â'r angylaidd lu; Na fyddo'm swydd ond hyfryd sôn, Am nefol rinwedd gwaed yr Oen.1-2: cyf. William Williams 1717-91 3-7: William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: Gwelir: Cod d'olwg f'enaid fynu fry Cyfyngder mwya'n Prynwr rhad Does arnaf eisiau yn y byd Fy enaid cwyd dy olwg fry Fy haeddiant mawr yn nghanol ne' Gwel ar Galfaria dyma'r dyn Mae f'enaid gwan yr awr am ddod Nid oes un gwrthddrych yn y byd O Arglwydd gad im' dy fwynhau O feiau mawr 'beth all'sech fwy? Pan adnabyddwyf iaith y wlad Pan b'wy'n golygu'r groes yn awr |
While looking, Jesus, on the cross And thinking deeply on thy deadly anguish Then do I disparage the world And all glory that is in it altogether. Do not let me trust while I live Except in thy death, my God; Thy pains and thy mortal wound Shall be henceforth the boast for me. [Let me trust through out my lifespan, In the merit of the great sacrifice of the cross; Thy pains and thy mortal wound Shall be a boast for me evermore.] Look, in the hands of my pure Redeemer, And in his feet, nails of steel; Look on the spear Cutting the wound under his breast! Here there were in the afternoon Graces fully shining: A thousand wonders agreeing Redeeming the backslidden man. Pain and joy under the anguish, Sadness and love on the cross; Where were virtues like these Ever before under a crown of thorns? Why would one love the world and its goods any longer? Is there not here a much greater object, Which will hold his love while there be breath, And an eternity afterwards forever. As for me, I will sacrifice for thy praise Every idol which is from under the sky, And while meditating on thy blood Every image falls under my feet. :: Thy pains and thy :: Thy love, Thy Here there were :: Oh see here ... ! I will sacrifice for thy praise :: I will sacrifice thy praise
While looking, Jesus, on the cross And thinking deeply on thy deadly anguish Then do I disparage the world And all glory that is in it altogether. Do not let me trust while I live Except in thy death, my God; Thy pains and thy mortal wound Shall be henceforth a boast for me. O great faults what could ye more Than give to the King of heaven a wound, Ye slew the Lamb, the sky turned, The day of your punishment is coming. Look ye upon him, behold the Man, - And who was he but God himself? The sins of the whole believing world, Weighed on his shoulders altogether. My God testified from the centre of heaven, That I got full satisfaction in him; And that his saints from great to small are, In the merit of Jesus, all clean. I have no need in the world But to look on thy precious merit; And to have some terror of its heavenly virtue, To depart from me myself completely. I am asking in thy pure temple To get to see thee like before; And a morning dawn to shine graciously From the pure courts of my Father's house. Kindle a fire of dear love In concert with the angelic host; That my job be only delightfully to sound, About the heavenly merit of the blood of the Lamb.tr. 2008,17 Richard B Gillion |
When I survey the wondrous cross On which the Prince of glory died, My richest gain I count but loss, And pour contempt on all my pride. Forbid it, Lord, that I should boast, Save in the death of Christ my God! All the vain things that charm me most, I sacrifice them to His blood. See from His head, His hands, His feet, Sorrow and love flow mingled down! Did e'er such love and sorrow meet, Or thorns compose so rich a crown? His dying crimson, like a robe, Spreads o'er His body on the tree; Then I am dead to all the globe, And all the globe is dead to me. Were the whole realm of nature mine, That were a present far too small; Love so amazing, so divine, Demands my soul, my life, my all. To Christ, who won for sinners grace By bitter grief and anguish sore, Be praise from all the ransomed race Forever and forevermore.
When I survey the wondrous cross On which the Prince of glory died, My richest gain I count but loss, And pour contempt on all my pride. Forbid it, Lord, that I should boast, Save in the death of Christ my God! All the vain things that charm me most, I sacrifice them to His blood.1707 Isaac Watts 1674-1748
Tunes: |